The BSA Homepage* British Stammering Association*
 The UK Website for Stammering   Home | About The BSA    Cookies info  
*

-Information for
    Adults
    Teenagers
    School Children
    Under 5's
    SLTs
    Teachers
    Health visitors
    Employers, services
    Partners, friends
    Media

-BSA Services
    Helpline
    Library
    Shop
    Speaking Out
    Where / What ?
    Research

-Features
    Events
    News & notices
    Self-help
    Scotland
    Web links

-Site information
    What's new
    Contents
    Search the Site
    Legal

-The BSA
    About the BSA
    Join the BSA
    Contact us
   
-Supporting us
* How to support BSA





Supported By

Smith's Charity


Community Programme

The Department of Health
* *
Information For Parents in Welsh

Oes gan eich plentyn ifanc chi atal dweud?

"Does your young child stammer?" leafletmu-mu-mu-mu-mummyMae'r llyfryn hwn ar gyfer rhieni sy'n poeni am ruglder iaith eu plant neu sy'n teimlo ei fod ef* yn cael trafferth siarad. Mae'n egluro lle y gallwch gael cyngor a sut y gallwch chi helpu eich plentyn fod yn fwy rhugl pan mae'n siarad.

(*=mae't testun yn defnyddio 'ef er mwyn eglurder ac oherwydd bod bechgyn yn cael eu heffeithio yn fwy na merched).

Siarad a Rhuglder | Beth yw atal dweud? | Beth a wyddir am atal dweud? | Sut mae rhuglder yn cael ei effeithio?| Sut all fy mhlenthyn gael help? | Beth fydd y therapydd angen gwybod? | Beth allaf i wneud i helpu? | Lle allaf i gael mwy o help?

Siarad a Rhuglder

Nid yw dysgu siarad, fel dysgu sut i gerdded, yn gwbl esmwyth ac nid ydyw'n digwydd yn syth. Gall plant ifanc weithiau stopio, cychwyn eto a baglu dros eiriau pan maent yn dysgu siarad.

Rhwng yr oedran dwy a phum mlwydd, mae'n naturiol i blentyn ailadrodd geiriau a brawddegau, ac oedi gyda "m"'s a "y"'s pan mae o'n ceisio sortio allan beth i 'w ddweud nesaf.

Fodd bynnag, mae tua phum plentyn ym mhob cant gyda atal dweud am gyfnod pan maent yn dysgu siarad. Mae nifer o blant yn ei chael hi'n haws i siarad yn rhugl fel maent yn mynd yn hyn. Mae eraill yn parhau i gael trafferth i siarad, ac yn aml yn stopio yn eu hunfan..

Os ydych yn bryderus ynglyn â iaith eich plentyn dylech drefnu i gweld therapydd iaith a lleferydd a all ddangos i chi sut i helpu eich plentyn.

Beth yw atal dweud?

Efallai bod eich plentyn

yn rhoi ymdrech ychwanegol i ddweud geiriau
gyda iaith herciog a thynn
yn cael trafferth cychwyn, a dim swn yn dod allan am ychydig eiliadau ('..mae gen i dedi')
yn ymestyn synau mewn gair ('dwi eisiau sssstori')
yn ailadrodd rhannau o eiriau nifer o weithiau ('ma-ma-ma-ma-mam')
yn stopio beth mae o'n ei ddweud hanner ffordd trwy'r frawddeg.

Mae'r esiamplau hyn yn amrywio o blentyn i blentyn - fe allwch glywed rhai neu bob un o'r rhain pan fo eich plentyn yn siarad.

Beth a wyddir am atal dweud?

Ni wyddwn yn union pam mae plentyn yn atal dweud, mae'n debygol fod cyfuniad o ffactorau yn gysylltiedig. Nid oes tystiolaeth fod rhiwni yn achosi atal dweud. Mae atal dweud yn tua phedair gwaith mwy cyffredin mewn bechgyn nag mewn merched. Mae atal dweud yn aml yn rhedeg yn y teulu ac yn digwydd trwy'r byd ym mhob diwylliant a grwpiau cymdeithasol.

Sut mae rhuglder yn cael ei effeithio?

Beth bynnag yw oedran eich plentyn, mae yna bethau y gall ef eu gwneud yn hawdd a phethau eraill sy'n anodd iddo. Gall rhuglder eich plentyn newid yn ôl

gall atal dweud fynd a dod - felly peidiuch a gohirio cael help y sefyllfa (e.e. os yw'n swnllyd neu ddistaw, prysur neu ymlaciol, yn y cartref neu yn y feithrinfa/ysgol feithrin)
pa un ai yw eich plentyn yn siarad gyda ffrindiau, rhieni neu ddieithriaid
beth mae o eisiau ei ddweud (e.e. os yw'n gymhleth neu'n hawdd, os yw'r geiriau yn newydd neu yn gyfarwydd)
· sut mae o'n teimlo (yn sâl, blinedig, pryderus, cynhyrfus neu hyderus)

Gall atal dweud fynd a dod, gallwch sylwi fod ei iaith yn rhugl am nifer o ddyddiau, wythnosau neu fisoedd ar y tro, yna mae'n baglu ac mae siarad yn anodd unwaith eto iddo.

Sut all fy mhlentyn gael help?

Gall plant dderbyn help mawr gan therapydd iaith a lleferydd. Os oes gennych unrhyw bryderon am iaith eich plentyn, mae'n bwysig i chi gael cyngor cyn gynted at sy'n bosibl.

gofynnwch am gymorth yn fuan - siaradwch gyda'ch meddyg neu ymwelydd iechyd nawrLleolir therapyddion mewn canolfannau iechyd lleol ac ysbytai. Gallwch gyfeirio eich plentyn yn uniongyrchol at eich therapydd lleol, neu gallwch ofyn wrth eich meddyg teulu neu ymwelydd iechyd i wneud hyn ar eich rhan. Mae therapi iaith a lleferydd ar gael ar y G I G. Efallai bydd yn rhaid i chi aros am ychydig o wythnosau cyn cael eich gweld, gan fod y rhan fwyaf o adrannau therapi â rhestrau aros. Bydd yr ymweliad yn annffurfiol a hamddenol.

Mae therapyddion iaith a lleferydd cymwys hefyd ar gael yn breifat am asesiad a thriniaeth.

Beth fydd y therapydd angen gwybod?

Bydd y therapydd iaith a lleferydd yn gofyn am wybodaeth fel ei bod yn gallu deall sut mae eich plentyn yn cyfathrebu.

Bydd hi yn eich cynnwys chi yn yr asesiad, ac yn gofyn cwestiynau i chi am iaith eich plentyn (e.e. pryd mae o'n rhugl a ddim mor rhugl) ac am ei iechyd a' i ddatblygiad yn gyffredinol.

Bydd y therapydd hefyd yn siarad gyda'ch plentyn ac yn gwrando arno'n siarad a gall edrych ar agweddau eraill o ddatblygiad cyfathrebu eich plentyn (ee y ffordd mae o'n siarad a chwarae gydag eraill, ei ddealltwriaeth a' i ddatblygiad o iaith, sut mae'n dweud ei eiriau, a sut mae'r iaith yn swnio pan mae'n siarad gydag atal).

Ar ôl yr asesiad bydd amser i chi a'r therapydd drafod iaith eich plentyn ac unrhyw bryderon fydd gennych. Bydd hi'n awgrymu ffyrdd allwch chi helpu eich plentyn gartref. Efallai bydd angen apwyntiadau pellach.

Beth allaf i wneud i helpu?

Tra'n aros am apwyntiad i weld therapydd iaith a lleferydd, dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu eich plentyn gyda' i siarad. Bydd rhai ohonynt yn hawdd, ac eraill angen mwy o ymarfer.

Os yw eich plentyn yn treulio llawer o amser gyda aelodau eraill o'r teulu (ee nain/taid neu fodryb) neu rhwyun arall (e.e. athro/awes ysgol feithrin neu ofalwr plant) bydd yn ddefynddiol dangos y daflen hon iddynt.

Cofiwch: Nid oes tystiolaeth fod rhieni yn achosi atal dweud. Peidiwch â beio eich hun!

1.
Tua thair gwaith yr wythnos rhowch eich sylw yn llwyr i 'ch plentyn am bum munud, ei 'amser arbennig' pan nad yw'n brwydro i siarad dros leisiau eraill. Pan ddaw ei dro ef i siarad, rhowch amser iddo orffen beth mae'n ei ddweud heb dorri ar ei draws.

Treuliwch amser gyda'ch gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn, anogwch ef drwy ei ganmol pan mae'n gwneud rhwybeth yn dda (e.e. 'rwyt ti'n dda am wneud posau'neu 'dyma beth neis i wneud') Gwnewch bethau yn hamddenol yn hytrach na'u rhuthro.

Unwaith yr ydych wedi cael amser arbennig gyda'ch plentyn, dewisiwch un o'r pwyntiau eraill a grybwyllwyd a'u gwneud yn ystod yr amser hwn.

2.
Siaradwch yn araf gyda'ch plentyn. Bydd hyn yn ei wneud yn haws iddo ddilyn beth yr ydych yn ei ddweud a' i helpu i beidio rhuthro. Gall hyn fod yn fwy defnyddiol na dweud wrth blentyn i arafu, i gychwyn eto neu gymryd anadl ddofn.

3.
Gallai gorffwys am eiliad cyn ei ateb neu cyn gofyn cwestiwn iddo fod o help. Mae'r ffordd o siarad araf, llai brysiog hwn yn rhoi amser i 'ch plentyn cyn ateb.

4.
Dangoswch i 'ch plentyn bod gennych ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddo i 'w ddweud, dim sut mae'n ei ddweud. Edrychwch arno pan mae'n siarad, fel ei fod yn gwybod eich bod chi'n gwrando arno a ddim yn ei frysio.

Os ydych yn brysur yn gwneud rhywbeth a ddim yn gallu stopio, dywedwch hynny wrth eich plentyn, er eich bod yn brysur, eich bod yn dal i wrando, neu eglurwch pam nad ydych yn gallu stopio, ond rhowch eich sylw yn llawn iddo nes ymlaen.

5.
Defnyddiwch yr un mathau o frawddegau byr mae eich plentyn yn eu defnyddio - cadwch nhw'n fyr a syml.


Peidiwch â disgwyl unrhyw newid yn iaith eich plentyn yn syth, ond gall ymarfer yr awgrymiadau hyn helpu eich plentyn siarad yn haws.

Lle allaf i gael mwy o help?

Gall y Gymdeithas Atal Dweud Prydeinig (British Stammering Association) ddweud wrthych sut i gysylltu â'ch gwasanaeth therapi iaith a lleferydd lleol. Mae gan y BSA linell gymorth gyfrinachol ar gyfer rhieni a gallwch ffonio am gyngor a gwybodaeth. Gallwch ddarllen mwy am atal dweud mewn plant ifanc yn y llyfrau canlynol:

'Stuttering and Your Child - Questions and Answers', published by the Stuttering Foundation of America, price to BSA members £2.45, to non-members £2.95. Prices include postage and packing within the UK
(shop). Review.

'Helping Children Cope with Stammering' by Jackie Turnbull and Trudy Stewart. This is a practical book for parents of children who stammer. Written in a clear, jargon-free language, it explains why some children have problems with their speech. 109 pages. Review. (Update, 2008: this book is now out of print but may be available, for example, from amazon.co.uk.)

Llinell gymorth i rieni
(yn saesnag):
0845 603 2001

Back to the top


 © 1996, 2000 The British Stammering Association.
LEGAL NOTICES: disclaimer, privacy/cookies, and copyright   
Registered Charity Numbers 1089967/SC038866